Hafan / Home
|
YSGOL BRO TEGID Cynllunwyd y wefan yma ym Mehefin 2006 gan Adam Thomas, Tomos Lloyd a Huw Ffrancon This website was designed in June 2006 by Adam Thomas, Tomos Lloyd, and Huw Ffrancon |
EIN TREF Tref farchnad lewyrchus yw'r Bala, yng nghanol
prydferthwch Parc Cenedlaethol Eryri ac ar lan Tegid, y llyn naturiol mwyaf yng
Nghymru. Ceir oddi yma olygfeydd o fynyddoedd y Berwyn, Yr Aran a'r Arenig.
Mae'n ganolfan ddelfrydol a ddefnyddir gan lawer o bobl fel man aros tra bont yn
crwydro'r glannau a'r mynyddoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Gallwch fynd am
dro ar y trên bach a theithio pedair milltir a hanner (7km) ar reilffordd Llyn
Tegid, gyda glannau'r llyn i Lanuwchllyn. Bu'r Bala'n enwog fel tref bwysig
i'r diwydiant gwlan ac mae'n adnabyddus heddiw fel canolfan ryngwladol ar gyfer
chwaraeon dwr. Gellir mwynhau hwylio, hwylfyrddio a chanwio ar y llyn a heb fod
nepell y mae Canolfan Tryweryn sef canolfan genedlaethol Dwr Gwyllt. Mae'r Bala
yn gyforiog o gysylltiadau hanesyddol a diwylliannol; dyma dref Thomas Edward
Ellis a'r Parchedig Thomas Charles, a'r dref y daeth Mari Jones iddi i geisio
Beibl. Gwyr pawb yr hanes am Mari Jones a gynilodd ei cheiniogau prin am
flynyddoedd er mwyn cael ei Beibl ei hun. Clywsai y gallai brynu Beibl gan
Thomas Charles un o arweinwyr mawr y diwygiad Methodistaidd ac yn 1780 fe
gerddodd 26 milltir (40km) yn droednoeth i'r Bala ond pan gyrhaeddodd cafodd nad
oedd dim Beiblau ar ôl gan Thomas Charles. Roedd wedi ei gyffwrdd gan ei hawydd
a'i sêl fel y rhoddodd iddi ei Feibl ei hun. Yn ôl yr hanes dyma fu'r
ysbrydoliaeth i sefydlu'r Feibl Gymdeithas. Gall ymwelwyr fwynhau cysylltiadau a
digwyddiadau diwylliannol yr ardal, gan gynnwys cyngherddau, eisteddfod,
carnifalau a'r wyl flynyddol sef Gwyl y Gwyniad. Yn y Bala hefyd y mae Glanllyn,
Canolfan yr Urdd. LLYN TEGID
GOLYGFEYDD ENWOG Y BALA Os am ddeall hanes y dref – ewch ar y tro
trefol sy’n nodi’r adeiladau a’r nodweddion hanesyddol oll. Ar y ffordd
gellwch weld: Capel Tegid, Capel draddodiadol i Fethodistiaid Cymru. Ers iddo gael ei adeiladu, mae o wedi cael twr uchel unigryw, a roddodd yr enw 'Cadeirlan Y Bala' iddo. Serch hyn, yn dilyn storm yn 2001, fe ddaeth y twr yn beryglus, ac felly roedd y capel heb dwr am bedair mlynedd nes i fuddsoddiadau olygu y cafodd ei ail-godi y llynnedd.
The White Lion Royal Hotel. Eleni, mae tafarn mwyaf enwog Y Bala o dan brosiect i'w adnewyddu i edrych yn debyg i sut oedd o yn y gorffennol. Mae'r gwaith yma yn cael ei wneud gan Welsh Historic Inns. Mae o'n enwog oherwydd fe ymwelodd y Brenhines Fictoria a'r gwesty pan yn aros yn Pale Hall, plasdy lleol. Mae stori ei bod hi yn bles iawn fod gan y gwesty doiled dan-do- rhywbeth moethus iawn y dyddiau hynny!
Tomen Y Bala. Tomen y Bala yw'r unig weddillion o beth oedd yn gastell Tomen a Beili sawl canrif yn ol. O ben y domen, gellir gweld golygfeydd gwerth chweil o'r dref. |