Hafan      /     Home

Hafan Ysgol Bro Tegid Bro Tegid School

 

YSGOL BRO TEGID

Cynllunwyd y wefan yma ym Mehefin 2006 gan Adam Thomas, Tomos Lloyd a Huw Ffrancon

This website was designed in June 2006 by Adam Thomas, Tomos Lloyd, and Huw Ffrancon

 

 

Mae Ysgol Bro Tegid yn falch iawn o fod yn Ysgol Iach, ac rydym yn rhan o'r Cynllun Ysgolion Iach a gynhelir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Dyma enghraift o'r disgyblion yn cadw'n heini mewn mabolgampau ac hefyd yn gwneud 'Jump Rope For Heart' i hel arian ar gyfer y 'British Heart Foundation'.

 

 

 

 

 

 

Ysgolion Hybu Iechyd

Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru (WNHSS)

Anogir y gwaith o ddatblygu ysgolion hybu iechyd yng Nghymru gan Gynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru. Mae’r WNHSS yn annog y gwaith o ddatblygu cynlluniau ysgolion iach lleol o fewn fframwaith cenedlaethol cyffredin. Mae’r rhain yn eu tro, yn annog datblygiad ysgolion hybu iechyd yn eu hardal.

Cynigir cyngor ac arweiniad o fewn y fframwaith cenedlaethol gan gynnwys nodau cenedlaethol, y rôl genedlaethol a'r rôl leol i gynlluniau lleol drwy gyhoeddiadau a digwyddiadau rhwydweithio cenedlaethol.

Achredir cynlluniau lleol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Cynllun Sir Benfro oedd y cyntaf i dderbyn achrediad yn ystod gwanwyn 2001. Erbyn hyn mae cynlluniau Conwy, Gwynedd, Ynys Mon, Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, Sir Fynwy, Bro Morgannwg, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam, Caerffili, Pen-y-bont, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Blaenau Gwent, Castell-nedd Port Talbot a Phowys wedi derbyn achrediad hefyd.

Mae cydlynwyr cynlluniau lleol yn cynnig cymorth uniongyrchol i ysgolion. Maent yn helpu’r ysgolion i nodi eu hanghenion presennol, yn aml drwy ddefnyddio’r Offer Asesu Ysgolion Iach, a’r Offer Asesu Ysgolion Iach i Ddisgyblion (pdf, 148KB) neu Weithgareddau Posibl i Ysgolion (pdf, 170KB). Yna byddant yn cynorthwyo wrth gynllunio camau gweithredu priodol i fynd i’r afael â’r anghenion hynny.

Mae cydlynwyr lleol hefyd yn sicrhau rhwydweithio lleol, ac yn cynnal system o fonitro ac achredu’r ysgolion yn eu cynllun.

Mae’r WNHSS yn adeiladu ar y profiad o weithio gyda 12 o ysgolion yng Nghymru fel rhan o’r Ysgolion Hybu Iechyd – Rhwydwaith Ewrop. Cyhoeddwyd y canfyddiadau gan Sue Bowker a Chris Tudor-Smith yn y cylchgrawn Health Education. Cyhoeddwyd astudiaethau achos yn Mewn Persbectif (pdf, 1.19MB).

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y gwaith o ddatblygu a gwerthuso cynlluniau ysgolion hybu iechyd yn y DU yn:

http://www.wiredforhealth.gov.uk (Lloegr)