Hafan      /     Home

Hafan Ysgol Bro Tegid Bro Tegid School

 

Ein Tref: Y Bala Lleoliad Gweithgareddau Rydym Ni Yn Ysgol Iach! Cystadleuaeth Farddoniaeth Hanes Yr Ysgol

YSGOL BRO TEGID

Cynllunwyd y wefan yma ym Mehefin 2006 gan Adam Thomas, Tomos Lloyd a Huw Ffrancon

This website was designed in June 2006 by Adam Thomas, Tomos Lloyd, and Huw Ffrancon

Croeso I'n Gwefan! 

 
Cyfeiriad Cysylltu:

Ysgol Bro Tegid,
Heol Tegid,
Y Bala,
Gwynedd
LL23 7BN

Rhif Ffon:

01678520278

 

 

Ebost:

pennaeth@brotegid.gwynedd.sch.uk

 

 

Mae Ysgol Bro Tegid yn ysgol gynradd sydd wedi ei Lleoli yn nhref Y Bala yng Ngogledd Cymru. Mae ganddI tua 80 o ddisgyblion, ac fe'i sefydlwyd yn 1905.

Yn Chwefror 2005, fe gawsom ein arolwg diweddaraf. RydYm yn hynod o falch o'r canlyniad, a dyma rai dyfyniadau o'r arolwg. Os y dymunwch weld yr adroddiad cyfan, ewch i:

www.estyn.co.uk

Mae Ysgol Bro Tegid yn ysgol ofalgar iawn ac yn llawn bwrlwm

Mae'r disgyblion yn gwneud cynnydd da iawn wrth iddynt symud trwy'r ysgol a datblygu eu gwybodaeth, medrau a dealltwriaeth. Maent yn dangos level uchel iawn o gymhelliant, yn frwdfrwydig eu hagwedd, ac yn cyfrannu'n aeddfed a chydwybodol at wersi.

Mae'r disgyblion yn ymddwyn yn dda yn y dosbarth, ac wrth chwarae. Maent yn glir yn eu dealltwriaeth o'r disgwyliadau a'r gwerthoedd sydd yn cael eu hybu gan yr ysgol. Maent yn gwrtais a pharchus tuag at bawb. Mae ymddygiad y disgyblion hynaf yn nodwedd eithriadol. Addangosant gryn aeddfedrwydd a chyfrifoldeb, ac mae hyn yn cael effaith bositif ar eu cynnydd.

Mae ansawdd y perthynas waith rhwng yr athrawon a'r disgyblion yn un gynnes a hapus, ac yn hyrwyddo cymhelliant a dysgu. Mae gan yr athrawon ddisgwyliadau uchel yng nghylch ac ymddygiad priodol a llwyddiant i sicrhau awrdurdod mewn modd eglur a theg. Mae eu cwestiynnu medrus yn ogystal a'u dulliau o gynnal ac ymestyn diddordeb y disgyblion yn nodweddion noddedig o addysgu.

Mae'r ddarpariaeth ar gyfer datblygu addysg bersonol a chymdeithasol y disgyblion yn eithriadol. Gwneir defnydd eithriadol o'r cyfnodau cylch.

Mae'r ysgol yn gymuned glos, hapus a gofalgar ble y caiff disgyblion eu gwerthfawrogi a'u parchu. Mae ansawdd y gofal, y cefnogaeth a'r cyfarwydydd yn eithriadol.