Hafan      /     Home

Hafan Ysgol Bro Tegid Bro Tegid School

 

YSGOL BRO TEGID

Cynllunwyd y wefan yma ym Mehefin 2006 gan Adam Thomas, Tomos Lloyd a Huw Ffrancon

This website was designed in June 2006 by Adam Thomas, Tomos Lloyd, and Huw Ffrancon

                                                                                                                                                                 Mae llawer o hanes i Ysgol Bro Tegid. Isod, gwelir llinell amser a gymerwyd o'r llyfr 'Canrif O Newid': Ysgol Bro Tegid 1905-2005', a gyhoeddwyd i ddathlu canmlwyddiant yr ysgol.

 

·       

    Sefydlwyd yn 1855 fel Ysgol Brydeinig ar Stryd fawr Y Bala- ‘ Bala British School

   Trosglwyddwyd i reolaeth Bwrdd Ysgol Plwy Llanycil: Ebrill 1, 1872- ‘ Bala Board School .’

   Trosglwyddwyd i reolaeth Cyngor Sir Feirionydd: 30 Medi, 1903- ‘ Bala Council School

   Caewyd yr ‘Hen Ysgol’ ddiwedd Rhagfyr 1904 a chodwyd adeilad newydd yr un flwyddyn yn Heol Tegid. Agorwyd hi ar 2 Ionawr, 1905, gyda phresenoldeb 125 o ddisgyblion ar y diwrnod agoriadol.

   Addaswyd hi i’w ffurff bresennol yn ystod chwarter olaf yr ugeinfed ganrif.

  Hyd at agor Ysgol Uwchradd Y Berwyn yn 1964, byddai dosbarthiadau i blant hyd at 15 oed (‘Seniors’). ‘ Bala Central School ’ oedd teitl yr Adran Hyn bryd hynny.

  Ar ol 1964 Ysgol Gynradd yn unig fu hi- ‘Ysgol Gynradd Y Bala.’ Mabwysiadwyd yr enw presennol, ‘Ysgol Bro Tegid’yn yr 1980au.

Dyma ddetholiadau o lyfr cofnod pennaeth yn yr ‘Hen Ysgol’ ac yn yr ‘Ysgol Newydd.’ Mae’r dyfyniadau canlynol yn adlewyrchu peth o drefn ac arferion yr ‘Hen Ysgol’ a chyflwr yr adeilad  iddo  tua'r diwedd. (Cadwyd at yr iaith wreiddiol.)